Eseciel 22:29-31 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

29. Y mae pobl y wlad yn arfer trais ac yn lladrata; y maent yn gorthrymu'r tlawd a'r anghenog, ac yn treisio'r dieithryn gan atal cyfiawnder.

30. Chwiliais am rywun yn eu mysg a allai adeiladu mur, a sefyll o'm blaen yn y bwlch, i amddiffyn y wlad rhag dinistr, ond ni chefais yr un.

31. Tywelltais fy llid arnynt a'u dinistrio â'm dicter tanllyd, a dwyn ar eu pennau eu hunain yr hyn a wnaethant,” medd yr Arglwydd DDUW.

Eseciel 22