Eseciel 20:47-49 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

47. Dywed wrth goedwig y de, ‘Gwrando air yr ARGLWYDD. Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Dyma fi'n cynnau tân ynot, ac fe ysir dy holl goed, yr ir a'r crin fel ei gilydd. Ni ddiffoddir y fflam danllyd, ond fe losgir ganddi bob wyneb o'r de i'r gogledd.

48. Bydd pawb yn gweld mai myfi'r ARGLWYDD a fu'n ei chynnau, ac nis diffoddir.’ ”

49. A dywedais, “Och! Fy Arglwydd DDUW, y maent yn dweud amdanaf, ‘Onid llefaru damhegion y mae?’ ”

Eseciel 20