Eseciel 18:19-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

19. “Eto fe ofynnwch, ‘Pam nad yw'r mab yn euog am drosedd y tad?’ Am i'r mab wneud barn a chyfiawnder, a chadw fy holl ddeddfau ac ufuddhau iddynt, bydd yn sicr o fyw.

20. Y sawl sy'n pechu a fydd farw. Ni fydd y mab yn euog am drosedd y tad, na'r tad am drosedd y mab; fe dderbyn y cyfiawn yn ôl ei gyfiawnder, a'r drygionus yn ôl ei ddrygioni.

21. “Os bydd y drygionus yn troi oddi wrth yr holl ddrygioni a wnaeth, yn cadw fy holl ddeddfau, ac yn gwneud barn a chyfiawnder, bydd yn sicr o fyw; ni fydd farw.

22. Ni chofir yn ei erbyn yr un o'i droseddau, ond oherwydd y cyfiawnder a wnaeth bydd fyw.

23. A wyf yn ymhyfrydu ym marw'r drygionus?” medd yr Arglwydd DDUW. “Onid gwell gennyf iddo droi o'i ffyrdd a byw?

Eseciel 18