Eseciel 18:13-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

13. y mae'n rhoi ei arian ar log ac yn derbyn elw. A fydd ef fyw? Na fydd! Am iddo wneud yr holl bethau ffiaidd hyn fe fydd yn sicr o farw, a bydd ei waed arno ef ei hun.

14. “Bwriwch fod gan hwnnw fab sy'n gweld yr holl ddrygioni a wnaeth ei dad; ac wedi iddo weld, nid yw'n ymddwyn felly.

15. Nid yw'n bwyta yn uchelfeydd y mynyddoedd, nac yn edrych ar eilunod tŷ Israel, nac yn halogi gwraig ei gymydog.

16. Nid yw'n gorthrymu neb, nac yn gofyn gwystl gan ddyledwr, nac yn lladrata; y mae'n rhoi bwyd i'r newynog a dillad am y noeth.

17. Y mae'n atal ei law rhag drygioni, ac nid yw'n cymryd llog nac elw; y mae'n cadw fy marnau ac yn dilyn fy neddfau. Ni fydd ef farw am drosedd ei dad, ond bydd yn sicr o fyw.

18. Bydd ei dad farw o achos ei droseddau ei hun, am iddo elwa trwy drais, lladrata oddi ar berthynas, a gwneud yr hyn nad oedd yn iawn ymysg ei bobl.

Eseciel 18