Eseciel 18:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud,

2. “Beth a olygwch wrth ddefnyddio'r ddihareb hon am wlad Israel:“ ‘Y rhieni fu'n bwyta grawnwin surion,ond ar ddannedd y plant y mae dincod’?

3. “Cyn wired â'm bod yn fyw,” medd yr Arglwydd DDUW, “ni ddefnyddiwch eto'r ddihareb hon yn Israel.

4. I mi y perthyn pob enaid byw, y rhiant a'r plentyn fel ei gilydd; a'r sawl sy'n pechu fydd farw.

5. “Bwriwch fod dyn cyfiawn sy'n gwneud barn a chyfiawnder.

Eseciel 18