Effesiaid 4:5-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

5. un Arglwydd, un ffydd, un bedydd,

6. un Duw a Thad i bawb, yr hwn sydd goruwch pawb, a thrwy bawb, ac ym mhawb.

7. Ond i bob un ohonom rhoddwyd gras, ei ran o rodd Crist.

8. Am hynny y mae'r Ysgrythur yn dweud:“Esgynnodd i'r uchelder, gan arwain ei garcharorion yn gaeth;rhoddodd roddion i bobl.”

9. Beth yw ystyr “esgynnodd”? Onid yw'n golygu ei fod wedi disgyn hefyd i barthau isaf y ddaear?

Effesiaid 4