Effesiaid 2:8-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

8. Trwy ras yr ydych wedi eich achub, trwy ffydd. Nid eich gwaith chwi yw hyn; rhodd Duw ydyw;

9. nid yw'n dibynnu ar weithredoedd, ac felly ni all neb ymffrostio.

10. Oherwydd ei waith ef ydym, wedi ein creu yng Nghrist Iesu i fywyd o weithredoedd da, bywyd y mae Duw wedi ei drefnu inni o'r dechrau.

11. Gan hynny, chwi oedd gynt yn Genhedloedd o ran y cnawd, chwi sydd yn cael eich galw yn ddienwaededig gan y rhai a elwir yn enwaededig (ar gyfrif gwaith dwylo dynol ar y cnawd),

Effesiaid 2