Effesiaid 2:6-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

6. Yng Nghrist Iesu, fe'n cyfododd gydag ef a'n gosod i eistedd gydag ef yn y nefolion leoedd,

7. er mwyn dangos, yn yr oesoedd sy'n dod, gyfoeth difesur ei ras trwy ei diriondeb i ni yng Nghrist Iesu.

8. Trwy ras yr ydych wedi eich achub, trwy ffydd. Nid eich gwaith chwi yw hyn; rhodd Duw ydyw;

9. nid yw'n dibynnu ar weithredoedd, ac felly ni all neb ymffrostio.

10. Oherwydd ei waith ef ydym, wedi ein creu yng Nghrist Iesu i fywyd o weithredoedd da, bywyd y mae Duw wedi ei drefnu inni o'r dechrau.

Effesiaid 2