Effesiaid 2:13-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

13. Ond yn awr, yng Nghrist Iesu, yr ydych chwi, a fu unwaith ymhell, wedi eich dwyn yn agos trwy waed Crist.

14. Oherwydd ef yw ein heddwch ni. Gwnaeth y ddau, yr Iddewon a'r Cenhedloedd, yn un, wedi chwalu trwy ei gnawd ei hun y canolfur o elyniaeth oedd yn eu gwahanu.

15. Dirymodd y Gyfraith, a'i gorchmynion a'i hordeiniadau. Ac felly, i wneud heddwch, creodd o'r ddau un ddynoliaeth newydd ynddo ef ei hun,

16. er mwyn cymodi'r ddau รข Duw, mewn un corff, trwy'r groes; trwyddi hi fe laddodd yr elyniaeth.

Effesiaid 2