Diarhebion 8:33-36 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

33. Gwrandewch ar gyfarwyddyd, a byddwch ddoeth;peidiwch â'i anwybyddu.

34. Gwyn ei fyd y sawl sy'n gwrando arnaf,sy'n disgwyl yn wastad wrth fy nrws,ac yn gwylio wrth fynedfa fy nhŷ.

35. Yn wir, y mae'r un sy'n fy nghael i yn cael bywyd,ac yn ennill ffafr yr ARGLWYDD;

36. ond y mae'r un sy'n methu fy nghael yn ei ddinistrio'i hun,a phawb sy'n fy nghasáu yn caru marwolaeth.”

Diarhebion 8