Diarhebion 8:31-34 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

31. yn ymddifyrru yn y byd a greodd,ac yn ymhyfrydu mewn pobl.

32. “Yn awr, blant, gwrandewch arnaf;gwyn eu byd y rhai sy'n cadw fy ffyrdd.

33. Gwrandewch ar gyfarwyddyd, a byddwch ddoeth;peidiwch â'i anwybyddu.

34. Gwyn ei fyd y sawl sy'n gwrando arnaf,sy'n disgwyl yn wastad wrth fy nrws,ac yn gwylio wrth fynedfa fy nhŷ.

Diarhebion 8