Diarhebion 8:14-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

14. Fy eiddo i yw cyngor a chraffter,a chennyf fi y mae deall a gallu.

15. Trwof fi y teyrnasa brenhinoedd,ac y llunia llywodraethwyr ddeddfau cyfiawn.

16. Trwof fi y caiff tywysogion awdurdod,ac y barna penaethiaid yn gyfiawn.

17. Yr wyf yn caru pob un sy'n fy ngharu i,ac y mae'r rhai sy'n fy ngheisio'n ddyfal yn fy nghael.

18. Gennyf fi y mae cyfoeth ac anrhydedd,digonedd o olud a chyfiawnder.

Diarhebion 8