Diarhebion 6:30-35 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

30. Oni ddirmygir lleidr pan fo'n dwyni foddhau ei chwant, er ei fod yn newynog?

31. Pan ddelir ef, rhaid iddo dalu'n ôl seithwaith,a rhoi'r cyfan sydd ganddo.

32. Felly, y mae'r godinebwr yn un disynnwyr,ac yn ei ddifetha'i hun wrth wneud hynny;

33. caiff niwed ac amarch,ac ni ddilëir ei warth.

34. Oherwydd y mae eiddigedd yn cynddeiriogi gŵr priod,ac nid yw'n arbed pan ddaw cyfle i ddial;

35. ni fyn dderbyn iawndal,ac nis bodlonir, er cymaint a roddi.

Diarhebion 6