Diarhebion 6:16-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

16. Chwe pheth sy'n gas gan yr ARGLWYDD,saith peth sy'n ffiaidd ganddo:

17. llygaid balch, tafod ffals,dwylo'n tywallt gwaed dieuog,

18. calon yn cynllunio oferedd,traed yn prysuro i wneud drwg,

19. gau dyst yn dweud celwydd,ac un sy'n codi cynnen rhwng perthnasau.

20. Fy mab, cadw orchymyn dy dad;paid ag anwybyddu cyfarwyddyd dy fam;

21. clyma hwy'n wastad yn dy galon,rhwym hwy am dy wddf.

22. Fe'th arweiniant ple bynnag yr ei,a gwylio drosot pan orffwysi,ac ymddiddan รข thi pan gyfodi.

23. Oherwydd y mae gorchymyn yn llusern, a chyfarwyddyd yn oleuni,a cherydd disgyblaeth yn arwain i fywyd,

24. ac yn dy gadw rhag gwraig cymydoga rhag gweniaith y ddynes estron.

Diarhebion 6