Diarhebion 6:14-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

14. Ei fwriad yw gwyrdroi, cynllunio drwg yn wastad,a chreu cynnen.

15. Am hynny daw dinistr arno yn ddisymwth;fe'i dryllir yn sydyn heb fodd i'w arbed.

16. Chwe pheth sy'n gas gan yr ARGLWYDD,saith peth sy'n ffiaidd ganddo:

17. llygaid balch, tafod ffals,dwylo'n tywallt gwaed dieuog,

18. calon yn cynllunio oferedd,traed yn prysuro i wneud drwg,

19. gau dyst yn dweud celwydd,ac un sy'n codi cynnen rhwng perthnasau.

Diarhebion 6