Diarhebion 6:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Fy mab, os rhoddaist wystl i'th gymydog,neu fynd yn feichiau i ddieithryn,

2. a chael dy rwymo gan dy eiriau dy hun,a'th ddal gan eiriau dy enau,

3. yna gweithreda fel hyn, fy mab, ac achub dy hun:gan dy fod yn llaw dy gymydog,dos ar frys ac ymbil â'th gymydog;

4. paid â rhoi cwsg i'th lygaidna gorffwys i'th amrannau;

5. achub dy hun fel ewig o afael yr heliwr,neu aderyn o law yr adarwr.

Diarhebion 6