1. Fy mab, os rhoddaist wystl i'th gymydog,neu fynd yn feichiau i ddieithryn,
2. a chael dy rwymo gan dy eiriau dy hun,a'th ddal gan eiriau dy enau,
3. yna gweithreda fel hyn, fy mab, ac achub dy hun:gan dy fod yn llaw dy gymydog,dos ar frys ac ymbil â'th gymydog;
4. paid â rhoi cwsg i'th lygaidna gorffwys i'th amrannau;
5. achub dy hun fel ewig o afael yr heliwr,neu aderyn o law yr adarwr.
6. Ti ddiogyn, dos at y morgrugyn,a sylwa ar ei ffordd a bydd ddoeth.
7. Er nad oes ganddo arweinyddna rheolwr na llywodraethwr,
8. y mae'n darparu ei gynhaliaeth yn yr haf,yn casglu ei fwyd amser cynhaeaf.
9. O ddiogyn, am ba hyd y byddi'n gorweddian?Pa bryd y codi o'th gwsg?
10. Ychydig gwsg, ychydig hepian,ychydig blethu dwylo i orffwys,
11. a daw tlodi arnat fel dieithryn creulon,ac angen fel gŵr arfog.
12. Un dieflig, un drwg,sy'n taenu geiriau dichellgar,
13. yn wincio â'i lygad, yn pwnio â'i droed,ac yn gwneud arwyddion â'i fysedd.
14. Ei fwriad yw gwyrdroi, cynllunio drwg yn wastad,a chreu cynnen.