Diarhebion 31:5-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

5. rhag iddynt yfed, ac anghofio'r hyn a ddeddfwyd,a gwyrdroi achos y rhai gorthrymedig i gyd.

6. Rhowch ddiod gadarn i'r un sydd ar ddarfod,a gwin i'r chwerw ei ysbryd;

7. cânt hwy yfed ac anghofio'u tlodi,a pheidio â chofio'u gofid byth mwy.

8. Dadlau o blaid y mud,a thros achos yr holl rai diobaith.

9. Siarad yn eglur, a rho farn gyfiawn;cefnoga achos yr anghenus a'r tlawd.

10. Pwy a all ddod o hyd i wraig fedrus?Y mae hi'n fwy gwerthfawr na gemau.

11. Y mae calon ei gŵr yn ymddiried ynddi,ac ni fydd pall ar ei henillion.

Diarhebion 31