Diarhebion 30:29-33 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

29. Y mae tri pheth sy'n hardd eu cerddediad,pedwar sy'n rhodio'n urddasol:

30. llew, gwron ymhlith yr anifeiliaid,nad yw'n cilio oddi wrth yr un ohonynt;

31. ceiliog yn torsythu; bwch gafr;a brenin yn arwain ei bobl.

32. Os bu iti ymddwyn yn ffôl trwy ymffrostio,neu gynllwynio drwg, rho dy law ar dy enau.

33. Oherwydd o gorddi llaeth ceir ymenyn,o wasgu'r trwyn ceir gwaed,ac o fegino llid ceir cynnen.

Diarhebion 30