Diarhebion 30:20-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

20. Dyma ymddygiad y wraig odinebus:y mae'n bwyta, yn sychu ei cheg,ac yn dweud, “Nid wyf wedi gwneud drwg.”

21. Y mae tri pheth sy'n cynhyrfu'r ddaear,pedwar na all hi eu dioddef:

22. gwas pan ddaw'n frenin,ffŵl pan gaiff ormod o fwyd,

23. dynes atgas yn cael gŵr,a morwyn yn disodli ei meistres.

24. Y mae pedwar peth ar y ddaear sy'n fach,ond yn eithriadol ddoeth:

25. y morgrug, creaduriaid sydd heb gryfder,ond sy'n casglu eu bwyd yn yr haf;

Diarhebion 30