Diarhebion 3:6-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

6. Cydnabydda ef yn dy holl ffyrdd,bydd ef yn sicr o gadw dy lwybrau'n union.

7. Paid â bod yn ddoeth yn dy olwg dy hun;ofna'r ARGLWYDD, a chilia oddi wrth ddrwg.

8. Bydd hyn yn iechyd i'th gorff,ac yn faeth i'th esgyrn.

9. Anrhydedda'r ARGLWYDD â'th gyfoeth,ac â blaenffrwyth dy holl gynnyrch.

10. Yna bydd dy ysguboriau'n orlawn,a'th gafnau'n gorlifo gan win.

11. Fy mab, paid â diystyru disgyblaeth yr ARGLWYDD,a phaid â digio wrth ei gerydd;

12. oherwydd ceryddu'r un a gâr y mae'r ARGLWYDD,fel tad sy'n hoff o'i blentyn.

13. Gwyn ei fyd y sawl a gafodd ddoethineb,a'r un sy'n berchen deall.

14. Y mae mwy o elw ynddi nag mewn arian,a'i chynnyrch yn well nag aur.

15. Y mae'n fwy gwerthfawr na gemau,ac nid yw dim a ddymuni yn debyg iddi.

16. Yn ei llaw dde y mae hir oes,a chyfoeth ac anrhydedd yn ei llaw chwith.

17. Ffyrdd hyfryd yw ei ffyrdd,a heddwch sydd ar ei holl lwybrau.

18. Y mae'n bren bywyd i'r neb a gydia ynddi,a dedwydd yw'r rhai sy'n glynu wrthi.

19. Trwy ddoethineb y sylfaenodd yr ARGLWYDD y ddaear,ac â deall y sicrhaodd y nefoedd;

20. trwy ei ddeall y ffrydiodd y dyfnderau,ac y defnynna'r cymylau wlith.

21. Fy mab, dal d'afael ar graffter a phwyll;paid â'u gollwng o'th olwg;

22. byddant yn iechyd i'th enaid,ac yn addurn am dy wddf.

23. Yna cei gerdded ymlaen heb bryder,ac ni fagla dy droed.

Diarhebion 3