Diarhebion 3:5-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

5. Ymddiried yn llwyr yn yr ARGLWYDD,a phaid â dibynnu ar dy ddeall dy hun.

6. Cydnabydda ef yn dy holl ffyrdd,bydd ef yn sicr o gadw dy lwybrau'n union.

7. Paid â bod yn ddoeth yn dy olwg dy hun;ofna'r ARGLWYDD, a chilia oddi wrth ddrwg.

8. Bydd hyn yn iechyd i'th gorff,ac yn faeth i'th esgyrn.

9. Anrhydedda'r ARGLWYDD â'th gyfoeth,ac â blaenffrwyth dy holl gynnyrch.

10. Yna bydd dy ysguboriau'n orlawn,a'th gafnau'n gorlifo gan win.

11. Fy mab, paid â diystyru disgyblaeth yr ARGLWYDD,a phaid â digio wrth ei gerydd;

12. oherwydd ceryddu'r un a gâr y mae'r ARGLWYDD,fel tad sy'n hoff o'i blentyn.

13. Gwyn ei fyd y sawl a gafodd ddoethineb,a'r un sy'n berchen deall.

14. Y mae mwy o elw ynddi nag mewn arian,a'i chynnyrch yn well nag aur.

15. Y mae'n fwy gwerthfawr na gemau,ac nid yw dim a ddymuni yn debyg iddi.

16. Yn ei llaw dde y mae hir oes,a chyfoeth ac anrhydedd yn ei llaw chwith.

17. Ffyrdd hyfryd yw ei ffyrdd,a heddwch sydd ar ei holl lwybrau.

Diarhebion 3