Diarhebion 3:25-29 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

25. Paid ag ofni rhag unrhyw ddychryn disymwth,na dinistr y drygionus pan ddaw;

26. oherwydd bydd yr ARGLWYDD yn hyder iti,ac yn cadw dy droed rhag y fagl.

27. Paid â gwrthod cymwynas i'r sawl sy'n ei haeddu,os yw yn dy allu i'w gwneud.

28. Paid â dweud wrth dy gymydog, “Tyrd yn d'ôl eto,ac fe'i rhoddaf iti yfory”,er ei fod gennyt yn awr.

29. Paid â chynllunio drwg yn erbyn dy gymydog,ac yntau'n ymddiried ynot.

Diarhebion 3