Diarhebion 3:15-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

15. Y mae'n fwy gwerthfawr na gemau,ac nid yw dim a ddymuni yn debyg iddi.

16. Yn ei llaw dde y mae hir oes,a chyfoeth ac anrhydedd yn ei llaw chwith.

17. Ffyrdd hyfryd yw ei ffyrdd,a heddwch sydd ar ei holl lwybrau.

18. Y mae'n bren bywyd i'r neb a gydia ynddi,a dedwydd yw'r rhai sy'n glynu wrthi.

Diarhebion 3