Diarhebion 3:12-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

12. oherwydd ceryddu'r un a gâr y mae'r ARGLWYDD,fel tad sy'n hoff o'i blentyn.

13. Gwyn ei fyd y sawl a gafodd ddoethineb,a'r un sy'n berchen deall.

14. Y mae mwy o elw ynddi nag mewn arian,a'i chynnyrch yn well nag aur.

15. Y mae'n fwy gwerthfawr na gemau,ac nid yw dim a ddymuni yn debyg iddi.

16. Yn ei llaw dde y mae hir oes,a chyfoeth ac anrhydedd yn ei llaw chwith.

17. Ffyrdd hyfryd yw ei ffyrdd,a heddwch sydd ar ei holl lwybrau.

Diarhebion 3