Diarhebion 29:9-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

9. Os â un doeth i gyfraith â ffŵl,bydd y ffŵl yn cythruddo ac yn gwawdio,ac ni cheir llonyddwch.

10. Y mae rhai gwaedlyd yn casáu'r un cywir,ond y mae'r rhai cyfiawn yn diogelu ei fywyd.

11. Y mae'r ffŵl yn arllwys ei holl ddig,ond y mae'r doeth yn ei gadw dan reolaeth.

12. Os yw llywodraethwr yn gwrando ar gelwydd,bydd ei holl weision yn ddrygionus.

Diarhebion 29