Diarhebion 29:13-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

13. Y mae hyn yn gyffredin i'r tlawd a'r gormeswr:yr ARGLWYDD sy'n goleuo llygaid y ddau.

14. Os yw brenin yn barnu'r tlodion yn gywir,yna fe sefydlir ei orsedd am byth.

15. Y mae gwialen a cherydd yn rhoi doethineb,ond y mae plentyn afreolus yn dwyn gwarth ar ei fam.

16. Pan amlha'r drygionus, bydd camwedd yn cynyddu,ond bydd y cyfiawn yn edrych ar eu cwymp.

17. Disgybla dy fab, a daw â chysur iti,a rhydd lawenydd iti yn dy fywyd.

18. Lle na cheir gweledigaeth, bydd y bobl ar chwâl;ond gwyn ei fyd y sawl sy'n cadw'r gyfraith.

Diarhebion 29