Diarhebion 29:11-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

11. Y mae'r ffŵl yn arllwys ei holl ddig,ond y mae'r doeth yn ei gadw dan reolaeth.

12. Os yw llywodraethwr yn gwrando ar gelwydd,bydd ei holl weision yn ddrygionus.

13. Y mae hyn yn gyffredin i'r tlawd a'r gormeswr:yr ARGLWYDD sy'n goleuo llygaid y ddau.

14. Os yw brenin yn barnu'r tlodion yn gywir,yna fe sefydlir ei orsedd am byth.

15. Y mae gwialen a cherydd yn rhoi doethineb,ond y mae plentyn afreolus yn dwyn gwarth ar ei fam.

Diarhebion 29