Diarhebion 28:13-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

13. Ni lwydda'r un sy'n cuddio'i droseddau,ond y mae'r un sy'n eu cyffesu ac yn cefnu arnynt yn cael trugaredd.

14. Gwyn ei fyd y sawl sy'n ofni'r ARGLWYDD yn wastad;ond y mae'r un sy'n caledu ei galon yn disgyn i ddinistr.

15. Fel llew yn rhuo, neu arth yn rhuthro,felly y mae un drygionus yn llywodraethu pobl dlawd.

16. Y mae llywodraethwr heb ddeall yn pentyrru trawster,ond y mae'r un sy'n casáu llwgrwobr yn estyn ei ddyddiau.

17. Y mae un sy'n euog o dywallt gwaedyn ffoi i gyfeiriad y pwll;peidied neb â'i atal.

Diarhebion 28