Diarhebion 28:1-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Y mae'r drygionus yn ffoi heb i neb ei erlid,ond fe saif y cyfiawn yn gadarn fel llew.

2. Pan fydd gwlad mewn gwrthryfel bydd nifer o arweinwyr,ond trwy bobl synhwyrol a deallus y sefydlir trefn.

3. Y mae un tlawd yn gorthrymu tlodion,fel glaw yn curo cnwd heb adael cynnyrch.

4. Y mae'r rhai sy'n cefnu ar y gyfraith yn canmol y drygionus,ond y mae'r rhai sy'n cadw'r gyfraith yn ymladd yn eu herbyn.

5. Nid yw pobl ddrwg yn deall beth yw cyfiawnder,ond y mae'r rhai sy'n ceisio'r ARGLWYDD yn deall y cyfan.

6. Y mae'n well bod yn dlawd, a rhodio'n gywir,na bod yn gyfoethog ac yn droellog ei ffyrdd.

7. Y mae plentyn deallus yn cadw'r gyfraith,ond y mae'r un sy'n cyfeillachu รข'r glwth yn dwyn anfri ar ei rieni.

Diarhebion 28