Diarhebion 24:9-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

9. Y mae dichell y ffŵl yn bechod,ac y mae pobl yn ffieiddio'r gwatwarwr.

10. Os torri dy galon yn nydd cyfyngder,yna y mae dy nerth yn wan.

11. Achub y rhai a ddygir i farwolaeth;rho gymorth i'r rhai a lusgir i'w lladd.

12. Os dywedi, “Ni wyddem ni am hyn”,onid yw'r un sy'n pwyso'r galon yn deall?Y mae'r un sy'n dy wylio yn gwybod,ac yn talu i bob un yn ôl ei waith.

13. Fy mab, bwyta fêl, oherwydd y mae'n dda,ac y mae diliau mêl yn felys i'th enau.

Diarhebion 24