Diarhebion 24:17-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

17. Paid â llawenhau pan syrth dy elyn,nac ymfalchïo pan feglir ef,

18. rhag i'r ARGLWYDD weld, a bod yn anfodlon,a throi ei ddig oddi wrtho.

19. Na fydd ddig wrth y rhai drygionus,na chenfigennu wrth y rhai sy'n gwneud drwg.

20. Oherwydd nid oes dyfodol i neb drwg,a diffoddir goleuni'r drygionus.

21. Fy mab, ofna'r ARGLWYDD a'r brenin;paid â bod yn anufudd iddynt,

22. oherwydd fe ddaw dinistr sydyn oddi wrthynt,a phwy a ŵyr y distryw a achosant ill dau?

23. Dyma hefyd eiriau'r doethion:Nid yw'n iawn dangos ffafr mewn barn.

Diarhebion 24