Diarhebion 24:1-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Paid â chenfigennu wrth bobl ddrwg,na dymuno bod yn eu cwmni;

2. oherwydd y maent hwy'n meddwl am drais,a'u genau'n sôn am drybini.

3. Fe adeiledir tŷ trwy ddoethineb,a'i sicrhau trwy wybodaeth.

4. Trwy ddeall y llenwir ystafelloeddâ phob eiddo gwerthfawr a dymunol.

5. Y mae'r doeth yn fwy grymus na'r cryf,a'r un deallus na'r un nerthol;

6. oherwydd gelli drefnu dy frwydr â medrusrwydd,a chael buddugoliaeth â llawer o gynghorwyr.

Diarhebion 24