Diarhebion 23:9-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

9. Paid â llefaru yng nghlyw'r ffŵl,oherwydd bydd yn dirmygu synnwyr dy eiriau.

10. Paid â symud yr hen derfynau,na chymryd meddiant o diroedd yr amddifaid;

11. oherwydd y mae eu Gwaredwr yn gryf,a bydd yn amddiffyn eu hachos yn dy erbyn.

12. Gosod dy feddwl ar gyfarwyddyd,a'th glust ar eiriau deall.

13. Paid ag atal disgyblaeth oddi wrth blentyn;os byddi'n ei guro â gwialen, ni fydd yn marw.

Diarhebion 23