Diarhebion 23:13-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

13. Paid ag atal disgyblaeth oddi wrth blentyn;os byddi'n ei guro â gwialen, ni fydd yn marw.

14. Os byddi'n ei guro â gwialen,byddi'n achub ei fywyd o Sheol.

15. Fy mab, os bydd dy galon yn ddoeth,bydd fy nghalon innau yn llawen.

16. Byddaf yn llawenhau drwof i gydpan fydd dy enau yn llefaru'n uniawn.

17. Paid â chenfigennu wrth bechaduriaid,ond wrth y rhai sy'n ofni'r ARGLWYDD bob amser;

Diarhebion 23