Diarhebion 22:4-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

4. Gwobr gostyngeiddrwydd ac ofn yr ARGLWYDDyw cyfoeth, anrhydedd a bywyd.

5. Y mae drain a maglau ar ffordd y gwrthnysig,ond y mae'r un gwyliadwrus yn cadw draw oddi wrthynt.

6. Hyffordda blentyn ar ddechrau ei daith,ac ni thry oddi wrthi pan heneiddia.

7. Y mae'r cyfoethog yn rheoli'r tlawd,ac y mae'r benthyciwr yn was i'r echwynnwr.

8. Y mae'r un sy'n hau anghyfiawnder yn medi gofid,a bydd gwialen ei ymffrost yn methu.

Diarhebion 22