Diarhebion 21:5-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

5. Y mae cynlluniau'r diwyd yn sicr o arwain i ddigonedd,ond daw angen ar bob un sydd mewn brys.

6. Y mae trysorau wedi eu hennill trwy gelwyddfel tarth yn diflannu neu fagl marwolaeth.

7. Rhwydir y rhai drygionus gan eu trais,am iddynt wrthod gwneud yr hyn sydd uniawn.

8. Troellog yw ffordd y troseddwr,ond uniawn yw gweithred y didwyll.

9. Gwell yw byw mewn congl ar ben tŷna rhannu cartref gyda gwraig gecrus.

10. Y mae'r drygionus yn awchu am wneud drwg;nid yw'n edrych yn drugarog ar ei gymydog.

Diarhebion 21