Diarhebion 21:13-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

13. Os bydd rhywun yn fyddar i gri'r tlawd,ni chaiff ei ateb pan fydd yntau'n galw.

14. Y mae rhodd ddirgel yn lliniaru dig, a childwrn dan glogyn yn tawelu llid mawr.

15. Caiff y cyfiawn lawenydd wrth wneud cyfiawnder,ond daw dinistr ar y rhai sy'n gwneud drwg.

16. Bydd rhywun sy'n troi oddi ar ffordd deallyn gorffwys yng nghwmni'r meirw.

17. Mewn angen y bydd y sawl sy'n caru pleser,ac ni ddaw'r sawl sy'n hoffi gwin ac olew yn gyfoethog.

Diarhebion 21