Diarhebion 20:9-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

9. Pwy a all ddweud, “Yr wyf wedi puro fy meddwl;yr wyf yn lân o'm pechod”?

10. Pan geir amrywiaeth mewn pwysau neu fesurau,y mae'r naill a'r llall yn ffiaidd gan yr ARGLWYDD.

11. Trwy ei weithredoedd y dengys yr ifanca yw ei waith yn bur ac yn uniawn.

12. Y glust sy'n clywed a'r llygad sy'n gweld,yr ARGLWYDD a'u gwnaeth ill dau.

13. Paid â bod yn hoff o gysgu, rhag iti fynd yn dlawd;cadw dy lygad yn agored, a chei ddigon o fwyd.

14. “Gwael iawn,” meddai'r prynwr;ond wrth fynd ymaith, y mae'n canmol ei fargen.

Diarhebion 20