Diarhebion 2:6-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

6. Oherwydd yr ARGLWYDD sy'n rhoi doethineb,ac o'i enau ef y daw gwybodaeth a deall.

7. Y mae'n trysori craffter i'r uniawn;y mae'n darian i'r rhai a rodia'n gywir.

8. Y mae'n diogelu llwybrau cyfiawnder,ac yn gwarchod ffordd ei ffyddloniaid.

9. Yna byddi'n deall cyfiawnder a barn,ac uniondeb a phob ffordd dda;

10. oherwydd bydd doethineb yn dod i'th feddwl,a deall yn rhoi pleser iti.

11. Bydd pwyll yn dy amddiffyn,a deall yn dy warchod,

Diarhebion 2