Diarhebion 19:7-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

7. Y mae holl frodyr y tlawd yn ei gasáu;gymaint mwy y pellha'i gyfeillion oddi wrtho!Y mae'n eu dilyn â geiriau, ond nid ydynt yno.

8. Y mae'r synhwyrol yn caru ei fywyd,a'r un sy'n diogelu gwybodaeth yn cael daioni.

9. Ni chaiff tyst celwyddog osgoi cosb,a difethir yr un sy'n dweud celwydd.

10. Nid yw moethusrwydd yn gweddu i'r ynfyd,na rheoli tywysogion i gaethwas.

11. Y mae deall yn gwneud rhywun yn amyneddgar,a'i anrhydedd yw maddau tramgwydd.

12. Y mae llid brenin fel rhuad llew ifanc,ond ei ffafr fel gwlith ar laswellt.

Diarhebion 19