Diarhebion 18:7-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

7. Genau'r ynfyd yw ei ddinistr,ac y mae ei eiriau yn fagl iddo'i hun.

8. Y mae geiriau'r straegar fel danteithionsy'n mynd i lawr i'r cylla.

9. Y mae'r diog yn ei waithyn frawd i'r un sy'n dwyn dinistr.

10. Y mae enw'r ARGLWYDD yn dŵr cadarn;rhed y cyfiawn ato ac y mae'n ddiogel.

Diarhebion 18