Diarhebion 17:18-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

18. Un disynnwyr sy'n rhoi gwystl,ac yn mynd yn feichiau dros ei gyfaill.

19. Y mae'r un sy'n hoffi tramgwyddo yn hoffi cynnen,a'r sawl sy'n ehangu ei borth yn gofyn am ddinistr.

20. Nid yw'r meddwl cyfeiliornus yn cael daioni,a disgyn i ddinistr a wna'r troellog ei dafod.

21. Y mae'r un sy'n cenhedlu ffŵl yn wynebu gofid,ac nid oes llawenydd i dad ynfytyn.

22. Y mae calon lawen yn rhoi iechyd,ond ysbryd isel yn sychu'r esgyrn.

23. Cymer y drygionus lwgrwobr o'i fynwesi wyrdroi llwybrau barn.

Diarhebion 17