Diarhebion 17:14-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

14. Y mae dechrau cweryl fel diferiad dŵr;ymatal di cyn i'r gynnen lifo allan.

15. Cyfiawnhau'r drygionus a chondemnio'r cyfiawn—y mae'r ddau fel ei gilydd yn ffiaidd gan yr ARGLWYDD.

16. Pa werth sydd i arian yn llaw ynfytyn?Ai i brynu doethineb, ac yntau heb ddeall?

17. Y mae cyfaill yn gyfaill bob amser;ar gyfer adfyd y genir brawd.

18. Un disynnwyr sy'n rhoi gwystl,ac yn mynd yn feichiau dros ei gyfaill.

19. Y mae'r un sy'n hoffi tramgwyddo yn hoffi cynnen,a'r sawl sy'n ehangu ei borth yn gofyn am ddinistr.

Diarhebion 17