Diarhebion 16:10-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

10. Ceir dyfarniad oddi ar wefusau'r brenin;nid yw ei enau yn bradychu cyfiawnder.

11. Mater i'r ARGLWYDD yw mantol a chloriannau cyfiawn;a'i waith ef yw'r holl bwysau yn y god.

12. Ffiaidd gan frenhinoedd yw gwneud drwg,oherwydd trwy gyfiawnder y sicrheir gorsedd.

13. Hyfrydwch brenin yw genau cyfiawn,a hoffa'r sawl sy'n llefaru'n uniawn.

14. Y mae llid brenin yn gennad angau,ond fe'i dofir gan yr un doeth.

15. Yn llewyrch wyneb brenin y ceir bywyd,ac y mae ei ffafr fel cwmwl glaw yn y gwanwyn.

16. Gwell nag aur yw ennill doethineb,a gwell dewis deall nag arian.

17. Y mae priffordd yr uniawn yn troi oddi wrth ddrygioni,a chadw ei fywyd y mae'r un sy'n gwylio'i ffordd.

18. Daw balchder o flaen dinistr,ac ymffrost o flaen cwymp.

19. Gwell bod yn ddistadl gyda'r anghenusna rhannu ysbail gyda'r balch.

20. Y mae'r medrus yn ei fater yn llwyddo,a'r un sy'n ymddiried yn yr ARGLWYDD yn ddedwydd.

Diarhebion 16