Diarhebion 15:13-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

13. Y mae calon lawen yn sirioli'r wyneb,ond dryllir yr ysbryd gan boen meddwl.

14. Y mae calon ddeallus yn ceisio gwybodaeth,ond y mae genau'r ffyliaid yn ymborthi ar ffolineb.

15. I'r cystuddiol, y mae pob diwrnod yn flinderus,ond y mae calon hapus yn wledd wastadol.

16. Gwell ychydig gydag ofn yr ARGLWYDDna chyfoeth mawr a thrallod gydag ef.

17. Gwell yw pryd o lysiau lle mae cariad,nag ych pasgedig a chasineb gydag ef.

18. Y mae un drwg ei dymer yn codi cynnen,ond y mae'r amyneddgar yn tawelu cweryl.

Diarhebion 15