Diarhebion 14:22-27 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

22. Onid yw'r rhai sy'n cynllwynio drwg yn cyfeiliorni,ond y rhai sy'n cynllunio da yn deyrngar a ffyddlon?

23. Ym mhob llafur y mae elw,ond y mae gwag-siarad yn arwain i angen.

24. Eu craffter yw coron y doeth,ond ffolineb yw addurn y ffyliaid.

25. Y mae tyst geirwir yn achub bywydau,ond y mae'r twyllwr yn pentyrru celwyddau.

26. Yn ofn yr ARGLWYDD y mae sicrwydd y cadarn,a bydd yn noddfa i'w blant.

27. Y mae ofn yr ARGLWYDD yn ffynnon fywioli arbed rhag maglau marwolaeth.

Diarhebion 14