Diarhebion 13:6-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

6. Y mae cyfiawnder yn amddiffyn ffordd y cywir,ond drygioni yn dymchwel y pechadur.

7. Rhydd ambell un yr argraff ei fod yn gyfoethog, a heb ddim ganddo;ymddengys arall yn dlawd, ac yntau'n gyfoethog iawn.

8. Y pridwerth am fywyd pob un yw ei gyfoeth,ond ni chlyw'r tlawd fygythion.

9. Disgleiria goleuni'r cyfiawn,ond diffydd lamp y drygionus.

10. Y mae'r disynnwyr yn codi cynnen trwy ymffrostio,ond y mae doethineb gan y rhai sy'n derbyn cyngor.

11. Derfydd cyfoeth a gafwyd yn ddiymdrech,ond o'i gasglu bob yn dipyn fe gynydda.

Diarhebion 13