Diarhebion 13:21-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

21. Y mae dinistr yn dilyn pechaduriaid,ond daioni yw gwobr y cyfiawn.

22. Gedy'r daionus etifeddiaeth i'w blant,ond rhoddir cyfoeth pechadur i'r cyfiawn.

23. Ceir digon o fwyd ym mraenar y tlodion,ond heb gyfiawnder fe ddiflanna.

24. Casáu ei fab a wna'r un sy'n arbed y wialen,ond ei garu y mae'r sawl a rydd gerydd cyson.

Diarhebion 13