Diarhebion 12:5-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

5. Y mae bwriadau'r cyfiawn yn gywir,ond cynlluniau'r drygionus yn dwyllodrus.

6. Cynllwyn i dywallt gwaed yw geiriau'r drygionus,ond y mae ymadroddion y cyfiawn yn eu gwaredu.

7. Dymchwelir y drygionus, a derfydd amdanynt,ond saif tŷ'r cyfiawn yn gadarn.

Diarhebion 12